Dull Cyflwyno

Atyniadau Naturiol

Nodweddion arfordirol

Fel y nodwyd yn gynharach, cynigia ardaloedd arfordirol apêl amrywiol i dwristiaid. Gellid dosbarthu pob traeth yn y byd yn atyniad naturiol ac mae gan lawer o’r rhain amrywiaeth o gyfleusterau i dwristiaid. I rai twristiaid, mae’r cyfleusterau a ddarperir yn ychwanegu at apêl y traeth, ond bydd traethau gwag ac arunig yn apelio’n fwy at eraill.                                         

Ar wahân i draethau, mae amrywiaeth o dirffurfiau arfordirol sy’n cynnig apêl a diddordeb i dwristiaid. O amgylch arfordir Prydain, mae nodweddion sy’n amrywio o Durdle Door yn Dorset, i Beachy Head yn Sussex a Giant’s Causeway yng Ngogledd Iwerddon i gyd yn atyniadau penodol sy’n apelio at dwristiaid ac o ddiddordeb iddynt. Yma, ac mewn llawer o atyniadau arfordirol eraill, darperir amrywiaeth o gyfleusterau i dwristiaid a rhan o’r apêl yw cerdded ar hyd pen clogwyn i weld y tirffurf. Mae clogwyni, staciau, bwâu, ogofâu ac ynysoedd oddi ar yr arfordir i gyd yn cynnig diddordeb ac apêl i dwristiaid.