Dull Cyflwyno

Atyniadau Naturiol

Atyniadau naturiol yw nodweddion penodol sy’n apelio at dwristiaid oherwydd natur y tirffurf neu harddwch y dirwedd lle mae’r atyniad. Mae atyniadau naturiol yn cynnwys:                             

  • Llynnoedd
  • Afonydd a thirffurfiau fel rhaeadrau a cheunentydd
  • Ogofâu
  • Mynyddoedd
  • Nodweddion arfordirol

Mae’n rhad ac am ddim ymweld â rhai atyniadau naturiol a chodir tâl mynediad ar gyfer rhai eraill. Nid yw’n bosibl codi tâl ar dwristiaid i ymweld â mynydd, ond gall fod yn fwy ymarferol codi tâl am ymweld ag ogof neu raeadr, yn enwedig os yw hwn ar dir preifat.                          

Fel arfer, mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael i dwristiaid ger atyniadau naturiol, gan gynnwys efallai:

  • Canolfan groeso neu ryw fath o hysbysfyrddau am y nodwedd                
  • Meysydd parcio a mynediad i ymwelwyr anabl
  • Cyfleusterau lluniaeth
  • Siop cofroddion
  • Cyfleusterau toiled
  • Teithiau cerdded a theithiau tywysedig
  • Golygfannau

Rhan o apêl llawer o atyniadau naturiol yw’r cyfleusterau a ddarperir. Mae llawer o dwristiaid yn gwerthfawrogi’r cyfle i gael gwybod ychydig am yr atyniad. Mae’r rhan fwyaf o atyniadau naturiol yn denu ymwelwyr sy’n aros mewn cyrchfannau cyfagos ac sy’n ymweld am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn â’r ardal lle mae’r atyniad.