Dull Cyflwyno

Amcanion Cymdeithasol

Gweithgaredd 3

Mae yna restr o eitemau y gall parciau thema eu gosod fel amcanion cymdeithasol yn y tabl isod. Darllenwch drwy’r rhestr a thiciwch 5 amcan yr ydych chi’n ystyried sydd bwysicaf. Trafodwch eich dewisiadau gyda’ch cyfoedion.

  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod ein holl weithwyr yn cael eu talu 50c yr awr yn fwy na’r isafswm cyflog.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw darparu ein holl weithwyr parhaol gyda 5 diwrnod o hyfforddiant.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw cyflogi 5 gweithiwr newydd gydag anghenion arbennig neu ychwanegol.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod aelodau teulu ein gweithwyr parhaol yn derbyn tocyn blynyddol am ddim.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod o leiaf 50% o’r bwyd sy’n cael ei werthu ar ein safle yn cael ei gynhyrchu yn yr ardal leol.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau na fydd unrhyw sŵn yn dod o’r parc ar ôl 11 yr hwyr.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod yr holl gofroddion yn cael eu cynhyrchu yn foesegol, a ddim yn cyflogi llafur plant.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod pob ymgeisydd o’r ardal leol yn cael eu gwahodd am gyfweliad.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw cyflogi o leiaf 10 ymgeisydd o’r ardal leol.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod pob gweithiwr sy’n gweithio ar ôl 9 yh yn derbyn trafnidiaeth am ddim i’w gartref.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod ein holl weithwyr parhaol yn derbyn gofal meddygol preifat am ddim.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw darparu ein holl weithwyr gyda chyfleuster ffreutur, gyda phrydau o fwyd yn rhatach.