Awdurdodau Lleol
Mae Cyngor Dinas Dulyn wedi datblygu cynllun ar gyfer datblygiad twristiaeth yn y ddinas ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Os fydd y cynllun yn llwyddiannus, bydd yn rhaid i’r cyngor weithio gyda nifer o bartneriaid.
Mae’r cynllun yn cynnwys tair rhan:
- Gwella profiad ymwelwyr drwy greu dinas ddiogel sy’n croesawu pobl o bedwar ban y byd
- Gwella profiad ymwelwyr drwy greu diwylliant bywiog ac amrywiol
- Gwneud y ddinas yn fwy cysylltiol drwy wella trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a chyfleusterau cerdded.
Mae gan y cynllun nifer o amcanion, ac ni fydd llawer o’r rhain yn cael eu cyflawni os na fydd y cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gydag ystod eang o sefydliadau. Mae’r amcanion yn cynnwys:
- Creu dinas sy’n gyfeillgar i gerddwyr o safon fyd-eang – i wneud hyn, efallai bydd angen i’r cyngor dinas weithio gydag awdurdodau a sefydliadau trafnidiaeth eraill er mwyn penderfynu pa rannau o’r ddinas y gellir eu gwneud yn ardaloedd i gerddwyr yn unig.
- Hyrwyddo Dulyn fel dinas o ddigwyddiadau – i wneud hyn, bydd yn rhaid i’r cyngor weithio mewn partneriaeth â pherchenogion y ddwy stadiwm fawr, Parc Croke a Stadiwm Aviva, yn ogystal â theatrau mawr fel y 3 Arena.
- Hyrwyddo Dulyn fel dinas o lenyddiaeth – mae Dulyn wedi cael ei dynodi gan UNESCO fel dinas o lenyddiaeth, ac mae’r cyngor yn awyddus i adeiladau ar y statws hwn er mwyn hyrwyddo twristiaeth.
- Atynnu mwy o ymwelwyr i’r ddinas – y gobaith yw cynyddu niferoedd twristiaid 7% bob blwyddyn. I wneud hyn, bydd angen i’r cyngor weithio mewn partneriaeth â chyrff twristiaeth, fel Dublin Tourism, Falite Ireland a Tourism Ireland, yn ogystal â sefydliadau mawr fel Maes Awyr Dulyn. Bydd hefyd angen i’r cyngor weithio’n agos gyda chynllunwyr a threfnwyr llety er mwyn agor mwy o westyau yn y ddinas, gan fod prinder llety i dwristiaid yn broblem sylweddol ar hyn o bryd.
- Datblygu diwylliant bwyd bywiog – mae agor caffis a bwytai newydd yn cynnig gwahanol fathau o fwyd yn syniad gwych, bydd hyn yn cynyddu’r dewis ar gyfer twristiaid. Bydd angen i’r cyngor weithio mewn partneriaeth gyda nifer o fwytai.
- Ehangu’r system trafnidiaeth gyhoeddus – ni all y cyngor dinas wneud hyn heb weithio mewn partneriaeth â darparwyr trafnidiaeth fel Dublin Bus a DART. Mae cynyddu hygyrchedd y ddinas drwy drafnidiaeth gyhoeddus yn syniad gwych a fydd yn lleihau’r effeithiau amgylcheddol.
- Datblygu dinas sy’n hawdd i gerdded ynddi – mae Visit Dublin wedi datblygu The Dubin Trail , sef taith gerdded drwy’r ddinas ble gall twristiaid lawrlwytho ap. Dyma syniad gwych i ddatblygu mwy o ffyrdd y gall technoleg ffonau symudol ac apiau gael eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth i dwristiaid.
- Datblygu dinas sy’n hawdd i feicio ynddi – mae’r cyngor yn awyddus i ymestyn y system logi beic Dublin Bikes sydd wedi’i gyflwyno’n ddiweddar yn y ddinas. Mae hon yn enghraifft wych o sefydliadau twristiaeth yn gweithio mewn partneriaeth. Mae’r cynllun yn cael ei noddi gan y gadwyn fwyd Just Eat, a gellir defnyddio’r Cerdyn Leap Ymwelydd i dalu am y beiciau.