Mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu bod gan bobl y cyfle i bori’r rhyngrwyd yn eu hamser eu hunain, archebu taith hedfan, gwirio amserau gadael/cyrraedd teithiau hedfan, archebu llety, ymchwilio digwyddiadau, edrych ar adolygiadau, a hyd yn oed, cynllunio pecyn unigryw a phersonol. Mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd. Does dim rhaid i bobl ymweld ag asiantaeth deithio ar y stryd fawr; maen nhw’n gallu gwneud hyn eu hunain. Mae datblygiadau technolegol yn chwarae rhan allweddol ym mhroses penderfynu twrist.
- Archebu llety ar-lein
- Ymweliadau/teithiau wedi’u harchebu o flaen llaw
- Gwefannau ar gyfer digwyddiadau penodol
- Trip Advisor
- Apiau
- Rhestri trafnidiaeth amser go iawn
Mae datblygiadau technolegol o’r fath wedi dylanwadu ar broses penderfynu twristiaid, gan fod nawr modd iddyn nhw edrych yn eu hamser eu hunain, cymharu cyrchfannau, a chreu pecyn unigryw o’u ffôn, gliniadur, iPad neu PC.