Dull Cyflwyno

Ffactorau ariannol

Gweithgaredd

Cyfrifwch gost y gwyliau canlynol:

  • Mae pecyn gwyliau i deulu o 4, dau oedolyn a dau blentyn, yn hedfan o Faes Awyr Gatwick i Salou, Sbaen yn costio £375 i bob oedolyn, a £325 i bob plentyn.
  • Mae taith hedfan ddwyffordd o Rufain, yr Eidal yn costio £79 y person gyda easyJet. Mae dau berson eisiau teithio, ac wedi archebu llety ar gyfer 3 noson; cyfanswm y gost yw £325. Cyfrifwch gost y teithiau hedfan a’r llety.
  • Mae grŵp o 12 o fechgyn yn mynd i Gaeredin ar barti stag. Bydd y trenau yn costio £87 y person. Mae tacsis dwyffordd o’r orsaf drenau i’r gwesty yn costio £40 ar gyfer 4 person. Maen nhw’n aros mewn gwesty bach mewn ystafelloedd â dau wely, sy’n costio £245 yr ystafell ar gyfer yr arhosiad cyfan. Maen nhw naill ai yn gallu archebu hanner prydau (half board, sef gwely, brecwast ac un prif gwrs mewn gwesty) neu Wely a Brecwast. Byddai hanner prydau yn costio £75 y person, a Gwely a Brecwast yn costio £35 y person. Cyfrifwch gyfanswm gost y trip, ar gyfer y teithiau hedfan, tacsis a llety ar gyfer un person.

Mewn parau, trafodwch ba opsiwn rydych chi’n credu bydd y bechgyn yn dewis. Ysgrifennwch eich ateb ac eglurhad er mwyn cyfiawnhau eich ateb isod.