Buoch yn dysgu am wahanol nodweddion ar dwristiaid a mathau o dwrist. Gadewch i ni weld yn awr a allwch chi ‘adeiladu twrist’.
Isod fe welwch gyfres o fathau o dwrist. O’r delweddau, dewiswch eitemau addas sy’n nodi naill ai math o dwrist hamdden neu dwrist busnes. Ymlaen â chi wedyn i adeiladu twristiaid o wahanol oedrannau ac o wahanol ddiwylliannau.
Isod gwelir nodweddion pob math o wahanol dwrist.
Gwahanol fathau o dwristiaid
- Hamdden – twristiaid yw’r rhain sy’n teithio yn syml at ddibenion hamdden. Nid yw’r gwyliau, y gwyliau byr, y penwythnos i ffwrdd, neu beth bynnag ydyw, yn gysylltiedig ag unrhyw ddiben gwaith o gwbl; maen nhw’n mynd yn eu hamser eu hunain ac er eu mwynhad eu hunain.
- Busnes – y gwrthwyneb llwyr i’r uchod. Mae’r twristiaid hyn oddi cartref ar fusnes. Efallai eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden tra byddant i ffwrdd ond prif ddiben eu hymweliad yw gwaith/busnes.
- Gwahanol oedrannau – gellir rhannu hyn yn ôl
- plant – babanod, plant bach, plant hŷn a’r glasoed
- oedolion – oedolion ifanc, oedolion canol oed, pobl hŷn
- Gwahanol ddiwylliannau – mae pobl o wahanol ddiwylliannau’n disgwyl cael eu parchu a disgwyl i’w credoau a’u hymddygiad gael eu deall. Mae diwylliant Prydeinig yn wahanol iawn i ddiwylliant Tsieineaidd, e.e. mae’r bwydydd yn wahanol, mae’r traddodiadau’n wahanol. Diwylliant sy’n ein gwneud ni fel yr ydym.